Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (2) |
1. Teyrngedau i’r cyn-Lywydd – Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Elis-Thomas AC
13.55
2. Datganiad gan Brif Weinidog Cymru am ei benodiadau i’r Cabinet
14.39
3. Cynnig i benodi'r Pwyllgor Busnes
NNDM4719
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3:
Yn penodi’r Llywydd, Jane Hutt ( Llafur), Jocelyn Davies (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o’r Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14.40
4. Cynnig i gymeradwyo busnes y Cyfarfod Llawn ar gyfer dydd Mercher, 25 Mai 2011
NNDM4718
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu o dan Rheol Sefydlog 12.10 (ii), i ganiatáu cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ddydd Mercher 25 Mai 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
Daeth y cyfarfod i ben am 14.41
Mae’r Llywydd, ar ôl ymgynghori â’r grwpiau gwleidyddol, wedi cytuno y cynhelir y Cyfarfod Llawn nesaf am 13.30 ddydd Mercher, 25 Mai 2011.